Addysg
Hybu dysgu cyhoeddus am ddim.
Mae addysg yn ganolog i gymunedau cryf, ac yn caniatáu lles cymdeithasol ac emosiynol, cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfrifoldeb. Mae ysgolion angen mwy o ryddid i fframio’r cwricwlwm o amgylch anghenion a diddordebau’r bobl ifanc yn yr ysgol.
Dylai fod pwyslais ar ddysgu disgybl-ganolog, sy’n darparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu, diddordebau ac anghenion.
Byddem yn:
Sicrhau bod plant yn gallu mynychu ysgol leol dda gyda pholisïau derbyn wedi’u penderfynu’n lleol ac yn berthnasol i bob ysgol.
Gweithio i sicrhau bod arian sy’n cael ei glustnodi ar gyfer ysgolion yn cael ei basio ymlaen gan awdurdodau, gan gynyddu’r gyfran o’r 75% presennol i 90%.
Symud yn raddol i gael maint dosbarthiadau yng Nghymru i lawr i gyfartaledd o 20 disgybl.
Amddiffyn ysgolion llai sy’n bod yn barod a chreu rhai newydd lle bo hynny’n addas. Mae ysgolion uwchradd mawr yn benodol yn gallu creu teimlad o ddieithrwch.
Mewn dinasoedd dylai ysgolion cynradd ddarparu ar gyfer 100 i 350 o ddisgyblion ac ysgolion uwchradd ar gyfer 600 i 1000. Mewn ardaloedd gwledig dylai ysgolion cynradd o 30 fod yn hyfyw mewn cymunedau bach. Fodd bynnag, gallai fod angen i nifer o ysgolion bach rannu adnoddau megis prifathro, arbenigwyr anghenion arbennig ac arbenigwyr pwnc.
Defnyddio potensial llawn adeiladau ysgolion ar gyfer defnydd cymunedol. Dosbarthiadau nos, clybiau a llyfrgelloedd ar agor trwy gydol y flwyddyn i wneud adeiladau ysgolion yn adnodd canolog i’r gymuned ehangach.
Darparu prydau ysgol am ddim i bawb – gyda bwyd lleol neu fasnach deg ac organig (lle mae hynny’n bosib), a chyda dewis llysieuol. Bydd hyn yn annog bwyta’n iach, ymladd yn erbyn gordewdra, gwella canolbwyntio a dod â’r stigma sy’n gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim i ben.
Gadael i athrawon ddysgu – rhoi mwy o ryddid i ysgolion ac athrawon dros y cwricwlwm y maent yn ei ddysgu. Cyflwyno plant i dechnolegau adnewyddadwy yn yr ysgol trwy sicrhau bod y rhan fwyaf o ysgolion yn cael y rhan fwyaf o’u hynni o ffynonellau adnewyddadwy ar y safle.
Lle mae rhieni’n dewis addysgu eu plant gartref câi hynny ei gefnogi gan Awdurdodau Lleol, a fyddai’n gweithio i sicrhau bod pob person ifanc yn cael addysg eang ac amrywiol o safon uchel.
Sicrhau bod gan bob ysgol gyngor ysgol â dylanwad gwirioneddol ar redeg yr ysgol, gan gynnwys strategaeth gwrth-fwlio.
Cael gwared â ffïoedd dysgu myfyrwyr mewn addysg uwch yn raddol i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru.