Amgylchedd
Newid hinsawdd
Y caneri yn y pwll glo.
Roedd glowyr yn arfer mynd â chaneri i lawr i’r pyllau gyda nhw i chwilio am nwyon gwenwynig. Roedden nhw’n rhoi rhybudd ymlaen llaw o broblemau i ddod. Dyna yw newid hinsawdd heddiw – bygythiad yn ei hunan i’n goroesiad ni fel rhywogaeth a rhybudd o gwymp ecolegol mwy cyffredinol.
Mae’r dystiolaeth o Copenhagen a Cancun yn awgrymu nad yw llywodraethau prif ffrwd wedi sylweddoli natur a graddfa’r newidiadau sydd eu hangen, o fuddsoddiadau anferth mewn arbed ynni, i dechnoleg ac isadeiledd gwyrdd, i drosglwyddo cyllid i wledydd sy’n datblygu. Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud y gallwn ni gynhyrchu ein trydan i gyd o ffynonellau adnewyddadwy, ond yn ddiweddar rydym wedi methu cwrdd â’n targedau ar gyfer cynhyrchu adnewyddadwy.
Mae’r newid hinsawdd a achosir gan ddyn yn fygythiad hollol newydd i'n lles ni. Ond dim ond y Blaid Werdd sy’n deall mai dim ond un arwydd yw hyn o’r straen y mae ein heconomïau a’n ffordd o fyw yn eu rhoi ar yr amgylchedd.
Gan gadw hyn mewn cof, byddem yn gosod targed i’r Cynulliad o leihau allyriadau CO2 o 10% y flwyddyn ar lefelau 1990, gyda’r nod tymor hir o leihau allyriadau o 65% erbyn 2020 a 90% erbyn 2030. Nid yw’r targed presennol o 3% mewn meysydd datganoledig yn agos at fod yn ddigon. Bydd pleidiau gwleidyddol eraill yn eich harwain i gredu mai problem ynysig yw hon. Ond dyw hynny ddim yn wir. Mae’n arwydd o’r hyn sydd i ddod os nad ydym yn rhoi trefn ar y blaned sy’n gartref i ni. O ganlyniad, mae ein maniffesto ni yn mynd i’r afael â newid hinsawdd a niwed amylcheddol drwyddi draw, fel rhan o broblem systemig ehangach.
Yn yr hinsawdd economaidd presennol mae’n hawdd i’r prif bleidiau gwleidyddol ymddangos yn wyrdd wrth i gynlluniau niweidiol i’r amgylchedd gael eu gohirio am resymau ariannol. Rydym yn poeni y gallai cynlluniau fel ffordd liniaru’r M4 a’r Parc Busnes Rhyngwladol yng Nghyffordd 33 gael eu hatgyfodi pan fydd y sefyllfa ariannol yn gwella. Bydd y Gwyrddion yn y Cynulliad yn parhau i gynnig gwrthwynebiad egwyddorol i gynlluniau o’r fath.





