Iechyd
Adfer iechyd y genedl.
Tosturi mewn gofal iechyd ac atal salwch ddylai gael y sylw blaenaf yn ein gwasanaeth gofal iechyd. Byddem yn:
Amddiffyn gweledigaeth Aneurin Bevan o Wasanaeth Iechyd Gwladol am ddim mewn perchnogaeth gyhoeddus, a rhwystro gwasanaethau rhag cael eu rheoli gan gwmnïau mewn perchnogaeth breifat.
Yn yr Alban, darperir gofal cymdeithasol am ddim i’r henoed. Byddem yn ymchwilio sut y gellid cyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru.
Datganoli cyfrifoldeb dros ofal iechyd i lywodraeth leol, sicrhau y darperir y lefelau gwasanaeth sylfaenol a chanllawiau cenedlaethol er mwyn atal loteri codau post, a gwrthwynebu canoli pellach ar y gwasanaeth iechyd.
Cadw’r gwasanaeth iechyd am ddim – cadw prescripsiynau am ddim, ailgyflwyno profion llygaid am ddim a thriniaeth ddeintyddol gan y GIG i bawb, a sicrhau bod gwasanaeth trin traed gan y GIG ar gael yn eang.
Gwrthwynebu gwasanaeth iechyd dwy haen. Ni ddylai ansawdd y gofal a gewch ddibynnu ar ddyfnder eich poced.
Trin cleifion gyda pharch. Mae gan gleifion hawliau yn ogystal â chyfrifoldebau – nid cwsmeriaid sy’n gallu mynd a dod mohonynt. Dylid cydnabod eu hurddas, ond dylent hefyd drin staff y GIG â pharch.
Rhoi’r hawl i farw gyda chymorth o fewn fframwaith haearnaidd o reoliadau, ac mewn cyd-destun argaeledd y lefel uchaf o ofal lliniarol.
Rhoi meddyginiaethau cyflenwol sy’n gost-effeithiol ac y dangoswyd eu bod yn gweithio ar gael ar y GIG. Rhagor o ofal deintyddiol gan y GIG yn hytrach na fflworideiddo dŵr yfed yn gyffredinol.