Swyddi a Economi
Gweithio er mwyn byw, nid byw er mwyn gweithio.
Mae’r colli swyddi sydd wedi dod gyda chamreoli model economaidd anghynaladwy yn wastraff gwarthus o dalent ac uchelgais, ac wedi troi bywyd yn frwydr ddyddiol i lawer o filoedd o bobl yng Nghymru.
Wrth i benaethiaid y banciau barhau i bocedu eich arian chi ar ffurf bonysau nad ydynt yn eu haeddu, mae ffatrïoedd, cwmnïau a ffermydd yn cael eu gorfodi i ddiswyddo rhagor o weithwyr bob dydd, wythnos a mis.
Rhaid i hyn ddod i ben. Ein blaenoriaeth fawr a phwysicaf yw creu swyddi a llefydd hyfforddi a fyddai’n mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol yn ogystal â diweithdra.
Byddai’n cynnwys pecyn o fesurau a ddisgrifir yn y maniffesto hwn, gan gynnwys hyfforddiant i’r gweithlu, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, cludiant cyhoeddus, inswleiddio, tai cymdeithasol a rheoli gwastraff. Byddem hefyd yn:





