Ynni
Lleihau’r galw, sicrhau’r cyflenwad.
Byddem yn:
Sicrhau bod system fonitro gydlynol wedi ei sefydlu i’w gwneud yn bosibl asesu yn erbyn targedau lleihau allyriadau.Blaenoriaethu’r tair G: Gwaredu, Gostwng, Gweddnewid. Yn gyntaf cael gwared â’r galw’n llwyr lle bo hynny’n bosib (e.e. trwy atal y gweithgaredd carbon dwys yn llwyr, neu drwy dechnoleg wirioneddol ddi-garbon); yna gostwng y galw (e.e. trwy fesurau effeithlonrwydd ynni); yna newid i ynni adnewyddadwy am ba bynnag alw am ynni sydd ar ôl.Nid yw’r sector preifat wedi ymateb i her ynni adnewyddadwy gyda digon o egni a buddsoddiad. Byddem yn cyflwyno rhaglen o fuddsoddi uniongyrchol gan y Llywodraeth mewn cynhyrchu ynni o wynt a ffynonellau adnewyddadwy eraill, gan greu swyddi mewn gosod a chynhyrchu’r offer.Mynnu bod pob cynllun datblygu sylweddol a chais cynllunio yn dangos sut y byddan nhw’n cyfrannu at dargedau lleihau carbon.Gosod rheoliadau adeiladu i fynnu safonau ynni rhagorol ar system o bwyntiau, a fydd yn cynnwys egni wedi’i ymgorffori yn y deunyddiau adeiladu, ynni a ddefnyddir wrth adeiladu, defnydd o ynni yn yr adeilad, cynhyrchu ynni ar y safle a defnydd o rwydweithiau dosbarthu gwres. Cyflwyno rhaglen inswleiddio cartrefi am ddim i bob cartref sydd ei angen, gyda blaenoriaeth i bensiynwyr a’r rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd, gyda’r nod o inswleiddio 40,000 o gartrefi bob blwyddyn. Cyflwyno safonau gofynnol ar gyfer ynni adnewyddadwy ar dai, adeiladau masnachol a chyhoeddus sy’n cael eu codi o’r newydd. Anelu at gael tua hanner ein hynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020 a sicrhau bod allyriadau o gynhyrchu pŵer yn cyrraedd dim erbyn 2030. Cael gwared ag ynni niwclear yn raddol a gwrthwynebu unrhyw bwerdai niwclear newydd. Atal unrhyw fuddsoddiad pellach mewn pwerdai glo newydd. Annog gwres adnewyddadwy a gwres a phŵer cyfunedig trwy helpu cynghorau i ddatblygu rhwydweithiau dosbarthu gwres mewn ardaloedd trefol addas. Gweithio i gynyddu’r defnydd o fio-nwy o ffynonellau organig megis gwastraff amaethyddol a charthion, gan weithio gyda’r cwmnïau dŵr i adeiladu gorsafoedd treulio gwastraff. Cyflwyno polisïau cynllunio cryfach i gefnogi cynlluniau ynni gwynt, llanw, tonnau, solar a geothermal.